www.dathlu.org

 
Hendre

4 Pantbach

Pentyrch

Caerdydd

CF15 9TG

 

Ffôn: 029 20890040

 

cadeirydd@dathlu.org

 

5  Tachwedd 2014

Clerc y Pwyllgor,
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru

 

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Cynulliad i gryfhau'r Bil Cynllunio a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod ystyriaeth ddigonol i effaith cynllunio ar yr iaith Gymraeg yn ein Cymunedau.

 

Nid yw’r Bil a gyflwynwyd i’r Cynulliad ar 6ed Hydref 2014 yn newid statws y Gymraeg o fewn y system gynllunio o gwbl. Dim ond un cyfeiriad sydd at yr iaith wrth sicrhau fod “panel cynllunio strategol’ newydd yn cydymffurfio â’r safonau iaith newydd

 

Mae Dathlu’r Gymraeg yn galw ar y Cynulliad i ddiwygio’r Bil i gynnwys

gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth cynllunio berthnasol ledled Cymru fel bod modd gwrthod ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith ar yr iaith;

gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol ar gyfer rhai datblygiadau;

sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio bresennol;

gosod llwybr a fframwaith er mwyn i’r Gymraeg ddod yn brif iaith gymunedol ar hyd a lled y wlad; a

sefydlu mai pwrpas y system gynllunio fyddai diwallu anghenion lleol, yn lle cyrraedd targedau tai cenedlaethol wedi ei seilio ar batrymau hanesyddol a rheoli tir mewn ffordd sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol, yn taclo tlodi ac yn hybu’r Gymraeg

 

Mae crynodeb a gyhoeddwyd o drafodaethau’r Gynhadledd Fawr ym mis Gorffennaf 2013 yn galw am  newidiadau i’r sustem gynllunio ac yn dweud mai symudoledd poblogaeth yw’r ‘her gyfredol fwyaf’ i’r iaith.

 

Mae Cyfrifiad 2011 yn dangos gostyngiad yn nifer yr adrannau etholiadol lle'r oedd dros 70% o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg: gostyngiad o 54 ardal yn 2001 i 39 ardal yn 2011. Roed cwymp yn nifer y bobl yng Nghymru dros 3 oed sy’n siarad

Cymraeg, o 20.76% o’r boblogaeth yn 2001 i 19% yn 2011.

 

Ym mis Awst 2014, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddogfen bolisi “Bwrw Mlaen” lle addawodd ystyried 'pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio'.

 

Anfonodd Comisiynydd y Gymraeg gyngor ysgrifenedig at y Llywodraeth ynghylch y Bil gan nodi mai dim ond hanner cynghorau sir Cymru sydd wedi cynnwys polisïau iaith Gymraegyn eu cynlluniau datblygu lleol.

 

Mae targedau tai cenedlaethol yn creu problemau i’r Gymraeg ac anfodlonrwydd mewn nifer o gymunedau megis ym Modelwyddan, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd. Mae angen dileu’r targedau tai ac, yn eu lle, seilio’r system ar anghenion lleol yn unig.

 

Rydym yn galw ar y Llywodraeth a’r Cynulliad i gynnwys ystyriaeth lawn i’r iaith Gymraeg ym maes Cynllunio.

 

 

Yr eiddoch

 

 

 

Penri Williams

 

Cadeirydd

Dathlu’r Gymraeg

 

 

Cefndir a chefnogaeth i Dathlu’r Gymraeg

Mae 23 o fudiadau sy’n cynrychioli y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn rhan o Dathlu’r Gymraeg.

 

CAER, Cronfa Glyndwr, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, CYDAG, Cyfeillion y Ddaear, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Mudiad Meithrin, RhAG, UAC, UCAC, UMCA, UMCB, Urdd Gobaith Cymru

 

Ein nod yw  Sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael defnyddio’r Gymraeg

Diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Neilltuo adnoddau ychwanegol i sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg.

Creu ‘Cynlluniau Gweithredol’ ar gyfer Strategaeth Iaith Fyw : Iaith Byw.

Gwireddu’r cerrig milltir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Sicrhau dyfodol llewyrchus ac annibynnol i S4C.